Rydym yn dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor yng Nghymru a gyllidir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR) Rydym yn cynghori a chefnogi'r maes ymchwil yng nghyd-destun dwyieithog Cymru ar ddulliau ymarfer gorau i gryfhau ymwybyddiaeth o'r Gymraeg ym maes ymchwil clinigol. Trwy ein grwpiau cefnogi, sef LLAIS (Grŵp Cefnogi Isadeiledd Ymwybyddiaeth Iaith) a NWORTH (Sefydliad Hapdreialon Iechyd Gogledd Cymru), rydym yn ymwneud â'r gymuned ymchwil er mwyn ymateb i'w blaenoriaethau. Rydym wedi datblygu rhaglen waith bwrpasol a fydd yn ymestyn dilysu fersiynau Cymraeg o fesurau iechyd a sicrhau eu bod ar gael yn fwy parod i'r gymuned iechyd ac ymchwil iechyd ledled Cymru a Phrydain.