Canllawiau Cyfieithu

Er mwyn sicrhau cywerthedd technegol, ieithyddol a chysyniadol mesurau iechyd, datblygwyd nifer o brotocolau ryngwladol ar sail tystiolaeth i lywio'r broses gyfieithu. Mae'r rhain yn cynnwys:

Mae llawer o'r protocolau hyn yn rhannu elfennau cyffredin sy'n ffurfio cyfres o gamau systematig ar gyfer trosi mesurau iechyd yn effeithiol. Mae'r elfennau cyffredin hyn yn cynnwys blaen gyfieithu ac ôl gyfieithu, adolygiad consensws a phrofion gwybyddol, gweler y table isod.

Rhif Cam Disgrifiad Personél
1 Paratoi Sicirhau caniatad, egluro cysyniadau, sefydlu tim prosiect a sefydlu amserlen
  • Rheolwr y prosiect
  • Ymgynghorydd cyfieithu
  • Ymgynghorydd clinigol
2 Blaen gyfieithu Cyfieithu fersiwn wreiddiol y mesur (ffynhonnell) i iaith arall (targed)
  • Cyfieithydd 1
  • Cyfieithydd 2
3 Adolygu'r blaen gyieithu Cymharu a chyfuno mwy nag un blaen gyfieithiad i greu un blaen gyfieithiad sengl.
  • Rheolwr y prosiect
  • Ymgynghorydd cyfieithu
  • Cyfieithydd 1
  • Cyfieithydd 2
4 Oi-gyfieithu Cyfieithu'r fersiwn yn yr iaith newydd yn ol ir iaith wreiddiol.
  • Cyfieithydd 3
  • Cyfieithydd 4 (opsiynol)
5 Adolygu'r ô'l-gyfieithu Cymharu'r fersiynau o'r mesur a Ol-gyfieithwyd gydar'r gwreiddiol i dynnu sylw at anghysondebay rhwng y fersiwn wreddiol a'r cyfieithiad sydd wedyn yn cael ei ddiwygio wrth i'r materion gael eu datrys
  • Rheolwr y prosiect
  • Ymgynghorydd cyfieithu
  • Cyfieithydd 3
  • Cyfieithydd 4
6 Profi gwybodaeth Rhoi prawf ar y mesur gyda grwp bychan o 8 - 12 o gleifion perthnasol / aelodau lleyg er mwyn rhoi prawf ar wahanol eiriad a gweld a yw'r cyfieithiad yn ddaelladwy, yn dehongli'n gywir ac a ydyw yn ddiwylliannol berthnasol
  • Aseswr profi gwybyddol
  • Cleifion / ymatebwyr lleyg
7 Adolygu'r profi gwybyddol Cymharu dehongliad y cleifion / aelodau lleyg o'r cyfieithiad gyda'r fersiwn wreiddiol i dynnu sylw at anghysondebau a'u diwygion
  • Rheolwr y prosiect
  • Ymgynghorydd cyfieithu
  • Ymgynghorydd clinigol
8 Adolygu Terfynol Adolygu'r cyfieithiad yn derfynol i nod a chywiro unrhyw gamgymeriad argraffu, gramadeg neu wallau eraill
  • Rheolwr y prosiect
9 Adrodd ac awdurdodi Ysgrifennu adroddiad ar ddiwedd y broses yn dogfen datblygiad pob cyfieithiad a sefydlu awdurdod y fersiwn iaith derfynol
  • Rheolwr y prosiect