Beth yw mesur iechyd?

Mae mesurau iechyd yn cael eu defnyddio'n gynyddol mewn lleoliadau clinigol ac ymchwil i fonitro statws iechyd cleifion ac asesu effaith y gwasanaeth a roddir iddynt a'r triniaethau a gânt. Ond mae dehongliadau unigol o iechyd yn amrywio yn dibynnu ar oed rhywun, eu cyflwr clinigol a'u cefndir diwylliannol. Felly, wrth lunio mesurau iechyd, mae'n rhaid ystyried y ffactorau hyn i gyd, er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r diben ac yn sensitif i anghenion cleifion. Mae'r dull gweithredu hwn yn arbennig o bwysig mewn ymchwil iechyd, lle mae cywirdeb a dibynadwyedd y canfyddiadau yn holl bwysig a lle mae canlyniadau'r astudiaethau'n deillio yn aml o boblogaeth eang ac amrywiol o gleifion.

Beth yw PROM?

Mesur iechyd yw mesur canlyniad a adroddir gan glaf (patient reported outcome measure - PROM) a weinyddir yn uniongyrchol i gleifion i ofyn am eu safbwyntiau ynglŷn â'r ffordd y mae agweddau ar eu hiechyd, eu salwch neu eu triniaeth yn effeithio ar eu statws gweithredol ac ar ansawdd eu bywyd. Cyflwynir PROMs yn aml ar ffurf holiaduron hunan-adrodd a all fod naill ai yn gofyn cwestiynau cyffredinol neu'n gofyn cwestiynau am afiechyd penodol. Oherwydd eu dull safonedig o feintioli safbwyntiau cleifion, defnyddir PROMs yn gynyddol i ategu mesurau traddodiadol o ganlyniadau clinigol ac fel casgliadau eilaidd mewn treialon clinigol.

Pam y mae angen fersiynau Cymraeg o fesurau iechyd?

Mae cyfathrebu mewn ffordd sy'n ymateb i anghenion ieithyddol a diwylliannol penodol cleifion yn gymorth i ddysgu am agweddau ar eu hiechyd personol a chael gwybodaeth fwy cywir am statws eu hiechyd. Mewn geiriau eraill, mae rhannu'r un iaith yn dod â phobl yn agosach at ei gilydd ac yn gwneud cyfathrebu a dealltwriaeth yn haws, ac yn gymorth i weld safbwynt y claf. Felly, yng nghyd-destun dwyieithog Cymru, mae'n hollbwysig bod mesurau iechyd yn cael eu cynnig yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn unol â dewis neu anghenion unigolion.

Beth yw'r risgiau os nad oes fersiynau Cymraeg o fesurau iechyd ar gael?

Er gwaetha'r ffaith bod yr ymdrechion i wella gwasanaethau gofal iechyd dwyieithog yng Nghymru wedi cynyddu, dim ond nifer cyfyngedig o fesurau iechyd sydd ar gael yn y Gymraeg. Mae hyn yn golygu y gellir camddehongli statws iechyd rhai siaradwyr Cymraeg; a gall hynny beryglu eu gofal a chodi cwestiynau am ddilysrwydd yr ymchwil a wneir mewn cyd-destun dwyieithog.

Pa fesurau iechyd sydd ar gael yn y Gymraeg a ble maent i'w cael?

Mae gan MI-CYM gronfa ddata o'r holl fesurau iechyd Cymraeg a gofnodwyd, sut i gael atynt a'r trefniadau trwyddedu. Cliciwch yma i chwilio'r safle. Os oes gennych wybodaeth am fesur iechyd Cymraeg sydd heb ei restri ar MI-CYM, neu wybodaeth am gyfieithiadau sydd ar waith, rhowch wybod i ni trwy glicio yma.

Beth os na fydd y mesur iechyd sydd ei angen arnaf ar gael yn y Gymraeg?

Er gwaethaf y cynnydd cyson a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf, rydym yn gwybod bod llawer o fesurau iechyd nad ydynt wedi eu cyfieithu a'u haddasu i'r Gymraeg. Mae Arolwg ac Adolygiad Cwmpasu Mesurau Iechyd Cymraeg a gynhaliwyd gan LLAIS/NWORTH yn 2013 yn rhoi rhyw syniad o flaenoriaethau ond nid yw'r rhestr yn gyflawn o bell ffordd ac mae llawer o waith i'w wneud eto. Os oes gennych fesur iechyd sydd angen ei gyfieithu neu ei addasu NEU os ydych eisiau rhagor o wybodaeth ac arweiniad cyn symud ymlaen gyda'r gwaith, cliciwch yma.

Rwy'n siarad Cymraeg, felly pam na ddylwn gyfieithu'r mesur iechyd fy hun?

Pan na fydd mesur iechyd ar gael yn y Gymraeg, mae'n ddealladwy bod ymarferwyr neu ymchwilwyr sy'n siarad Cymraeg yn cael eu temtio i'w gyfieithu eu hunain, yn enwedig er mewn diwallu anghenion ieithyddol eu cleientiaid. Ond mae cynhyrchu cyfieithiad safonedig sy'n ystyrlon, yn gywir ac yn ddibynadwy yn waith anodd sydd y tu hwnt i brofiad ymarferwyr unigol, beth bynnag eu gallu ieithyddol. Mae hyn oherwydd bod rhaid sicrhau cywerthedd rhwng gwahanol fersiynau iaith y mesur er mwyn osgoi tuedd. Mae hyn yn sicrhau bod unrhyw wahaniaethau rhwng sgorau'r Cymry a sgorau grŵp yr iaith wreiddiol yn adlewyrchu gwahaniaethau go iawn ymysg ymatebwyr yn hytrach nag unrhyw anghysondebau iaith a allai ddeillio o gyfieithu gwael. Mae pedair agwedd sylfaenol ar gywerthedd sy'n rhaid eu hystyried, sef:

Oherwydd yr heriau hyn, mae gofyn am weithdrefnau safonedig i'r broses gyfieithu yn ogystal ag asesiadau ansawdd o'r fersiwn Gymraeg newydd o'r mesur.

Beth yw'r dull safonedig o gyfieithu mesurau iechyd?

Er mwyn sicrhau cywerthedd technegol, ieithyddol a chysyniadol mesurau iechyd, datblygwyd nifer o brotocolau yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol i arwain y broses gyfieithu. Mae gan lawer o'r protocolau hyn elfennau cyffredin sy'n ffurfio cyfres o gamau systematig i gyfieithu mesurau iechyd mewn modd effeithiol (gweler y Canllawiau Cyfieithu). Mae'r elfennau cyffredin hyn yn cynnwys cyfieithu, ôl-gyfieithu, adolygiad cydsynio a phrawf gwybyddol.

Beth os byddaf yn dewis hepgor rhai o'r camau yn y dull safonedig?

Wrth gwrs, chi sy'n penderfynu a ydych am gwblhau'r holl gamau yn y dull safonedig, er mae hynny'n dibynnu'n aml ar natur y cytundeb caniatâd a sefydlwyd. Ond ni ellir rhoi dilysiad ieithyddol i'r mesur a gyfieithwyd nes bydd yr holl gamau wedi eu cwblhau, ac yn aml mae'n rhaid cael dilysiad ieithyddol cyn gellir ei ystyried yn gyfieithiad swyddogol yn yr iaith honno.

Beth yw ystyr dilysiad ieithyddol?

Proses yw dilysiad ieithyddol mesur iechyd lle mae'r gwaith o gyfieithu'r mesur yn dilyn methodoleg gaeth, gyda chamau rheoli ansawdd i sicrhau cywerthedd cysyniadol a semantig. Mae hyn yn sicrhau bod mesurau iechyd yn cael eu cyfieithu yn gywir a'u bod yn dderbyniol yn ddiwylliannol i'r boblogaeth yr anelir hwy atynt.

Beth yw ystyr dilysiad seicometrig?

Proses yw dilysiad seicometrig mesur iechyd lle mae'n rhaid ailsefydlu nodweddion seicometrig mesur a gyfieithwyd, hynny yw, mae'n rhaid asesu ei ddibynadwyedd a'i ddilysrwydd er mwyn sicrhau bod y raddfa'n gymaradwy â'r mesur gwreiddiol. Mae hyn yn cynnwys cynnal cyfres o brofion ystadegol.

Os yw mesur wedi ei ddilysu yn ieithyddol, a oes angen ei ddilysu'n seicometrig?

Unwaith y mae mesur wedi ei gyfieithu/addasu, disgwylir y bydd rhaid ailsefydlu ei nodweddion seicometrig er mwyn sicrhau bod y raddfa'n gymaradwy â'r mesur gwreiddiol. Fel sy'n wir yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol eraill, oherwydd nad oes poblogaeth fawr o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, mae hyn yn peri her arbennig, yn enwedig o ran recriwtio samplau digonol i sefydlu'r data. Er ei fod yn ddefnyddiol iawn cadarnhau dilysrwydd nodweddion seicometrig y mesurau hyn, mae goblygiadau sylweddol o ran adnoddau ynghlwm wrth hyn. Ar ben hynny, mae'n debygol bod trylwyredd y dilysu ieithyddol yn ein galluogi i gasglu nodweddion seicometrig y mesur gwreiddiol a sefydlwyd ymhlith poblogaeth fwy. Felly, er bod dull safon aur o ddilysu fersiynau Cymraeg mesurau iechyd yn seicometrig y tu hwnt i'n cyrraedd yng Nghymru ar hyn o bryd, mae dilysu ieithyddol yn gam ymlaen o broses ad-hoc o gyfieithu ac mae budd pennaf cleifion wrth wraidd y gwaith o sicrhau bod mesurau ar gael yn eu hiaith hwy.

Sut fedrwch chi gymryd rhan?

Gallwch gymryd rhan drwy 'Cynnwys Pobl'.